Welsh Language Policy

Bombastic has a mission to serve all the communities and audiences in Wales. Of usual residents in Wales aged 3 and over, 19% were able to speak Welsh according to the United Kingdom Census 2011. The Annual Population Survey conducted by the Office for National Statistics for the year ending in December 2018, suggested that 898,700 people or 29.8% of people aged 3 or over in Wales were able to speak Welsh. The Welsh Government have also recently announced their Welsh Language strategy in Cymraeg 2050, which outlines their vision to increase the number of Welsh speakers to 1 million people by the year 2050.

According to the National Survey for Wales, 2013-14: Welsh Language Use Survey, the percentage of the population who can speak Welsh fluently is greatest amongst children and young people aged 3 to 15, with 15 per cent of this age group reporting that they speak Welsh fluently. This is only set to grow and as children and young people are our primary target audience, this statistic is important to acknowledge as we provide work and communications for this audience.

Bombastic’s Welsh Language policy has been drawn up to reflect the artistic, language and community needs of its audiences, employees and volunteers. Bombastic’s principles match the Arts Council of Wales’s Welsh language strategy;

We are a bilingual nation – legally, socially, culturally, and as individuals and communities. Nothing makes Wales more distinctive than the Welsh Language. We’re committed to developing and promoting the arts in and through the medium of Welsh. We believe everyone has the right to explore their own culture, their own creativity, through the language of their choice, whether as consumer, participant, or artist. 

Bombastic is committed to treating the Welsh and English languages on a basis of equality, which is enshrined in the Welsh Language Act of 1993. We also recognise the legal context for the Welsh language included in the Welsh Language (Wales) Measure 2011, which gives official status to the Welsh Language and sets out the general principle that the Welsh language should be no less favourably treated than the English language in Wales and that persons in Wales should be able to live their lives through the medium of the Welsh language if they choose to do so.

Cynllun iaith Gymraeg Bombastig

Mae gan Bombastic genhadaeth, sef gwasanaethu pob cymuned a chynulleidfa yng Nghymru. O blith trigolion arferol Cymru sy’n deirblwydd a throsodd roedd 19% yn medru’r Gymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2011 y Deyrnas Unedig. Roedd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, wnaed gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2018, yn awgrymu bod 898,700 o bobl neu 29.8% y bobl deirblwydd neu drosodd yng Nghymru yn medru’r Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd newydd gyhoeddi eu strategaeth yr Iaith Gymraeg yn Cymraeg 2050, sy’n amlinellu eu gweledigaeth o ran chwyddo’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn filiwn o bobl erbyn y flwyddyn 2050.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2013-14: Arolwg Defnydd Iaith, mae canran y boblogaeth sy’n siarad y Gymraeg yn rhugl ar ei mwyaf ymhlith plant a phobl ifanc teirblwydd hyd at bymtheg oed, a phymtheg y cant y grŵp oedran yma’n datgan eu bod yn siarad y Gymraeg yn rhugl. Does dim dwywaith nad tyfu fydd hanes y ganran yma a gan mai plant a phobl ifanc ydi ein prif gynulleidfa darged, mae’n bwysig cydnabod yr ystadegyn yma gan mai i’r gynulleidfa yma’r ydym yn cynnig gwaith a chyfathrebu. Lluniwyd polisi’r Gymraeg Bombastic i fod yn ddrych o anghenion artistig, iaith a chymuned ei gynulleidfaoedd, ei weithwyr a’i wirfoddolwyr. Mae egwyddorion Bombastic’n cyd-fynd â strategaeth y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru:

Mae Cymru’n genedl ddwyieithog – yn gyfreithiol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Does dim yn gwneud Cymru’n fwy nodedig na’r Gymraeg. Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yn y Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i archwilio eu diwylliant eu hunain, eu creadigrwydd eu hunain, drwy eu dewis iaith, boed fel defnyddiwr, cyfranogwr neu artist.

Mae Bombastic yn ymroddedig i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gydradd, sydd wedi’i gorffori yn Neddf yr Iaith Gymraeg o’r flwyddyn 1993. Cydnabyddwn hefyd gyd-destun cyfreithiol y Gymraeg sydd ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg ac yn datgan yr egwyddor cyffredinol y dylid trin y Gymraeg yr un mor ffafriol â’r Saesneg yng Nghymru ac y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunan nhw